Roedd y ffordd yn codi ar dipyn o riw yn awr. Ffordd y cerddodd Sarah Jacob ar ei hyd, meddyliodd. Ôl ei chamre yn y caeau o hyd. Sawr ei hysbryd yn aros ar yr awel. Ei henaid yn dal i nythu rhwng y coed a'r cloddiau. Atgof o'i hanian yn parhau i frigo yn y fro. Nid aeth y Sarah honno'n angof yn y llecyn hwn.